Arts Active logo

Mae gan y tîm sy'n gyfrifol am y rhaglen addysg, cymuned a chynulleidfa boblogaidd yn y New Theatre a'n partneriaid yn Neuadd Dewi Sant enw a delwedd newydd bellach - A2: Actifyddion Artistig.


Ymgysylltu â'r byd addysg, y gymuned a'r gynulleidfa

Drwy gael ein hysbrydoli gan raglenni amrywiol Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre a'u defnyddio fel sbardun grymus ar gyfer ymdrechion creadigol, rydym yn ceisio annog pobl o bob oed i gymryd rhan a mwynhau gweithgarwch celfyddydol.

 

React logo

Clwb theatr am ddim sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc 16-25 oed weld dramâu gwych am brisiau anhygoel o rad.

 

I ymuno â react, llenwch eich manylion, datgysylltwch y slip a' i rhoi mewn blwch post. Byddwn yn cysyltu â chi yn fuana, pheidiwn â phoeni, ni fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth i werthu ty haf i chi yn Scarborough neu eich ymrwymo i wasanaeth milwrol yn Aberdeen. Y cyfan wnawn fydd rhoi cyfle i chi fanteisioar gynigion da i chi.

Felly ewch i chwilio am feiro.











 

 

Profiad Gwaith

Cwestiynau Cyffredin 

Ydych chi'n cynnig Profiad Gwaith?
Ydyn.  Rydym yn cynnig lleoliad profiad gwaith o 5 diwrnod i ddisgyblion 14+ oed yn Y New Theatre neu Neuadd Dewi Sant.  Mae nifer cyfyngedig o lleoliadau'n cael eu cynnig ar ôl cwblhau ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho, a chwblhau gweithdy ymarferol.  Y dyddiad cau am Haf 2012 iw 10 Mawrth 2012. Ni byddwn yn gallu ystyried ceisiadau sydd yn cyraedd ar ol y dyddiad cau.

Yn anffodus ni allwn gynnig profiad gwaith mwyach yn ystod mis Gorffennaf.  Erbyn hyn mae mis Gorffennaf yn hynod brysur ar gyfer pob adran, oherwydd bod gymaint o ddigwyddiadau a pherfformiadau. Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar staff ac adnoddau, sy'n golygu na allant roi'r amser sydd ei angen i sicrhau bod profiad gwaith rhywun yn un gwerth chweil. 

Dadlwythwch ffurflen gais (agor mewn ffenestr newydd) neu ffoniwch ni am fwy o fanylion.

Faint o ddisgyblion Profiad Gwaith mae modd i chi eu derbyn?
Mae gennym le hyd at 6 y dymor (un ar y tro ym mhob lleoliad).  Bydd dyddiad cau ymgeisio i'w weld ar y wefan.  Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Faint ymlaen llaw sydd angen i mi ymgeisio?
Gorau po gynted.  Bydd y dyddiad cau a'r gweithdy dymor o flaen llaw bob amser, felly bydd cyfle gan y rhai aflwyddiannus i ddod o hyd i leoliad arall.

Ydych chi'n cynnig cyfleoedd Profiad Gwaith i fyfyrwyr / graddedigion?
O bryd i'w gilydd mae'n bosibl trefnu lleoliad penodol.  Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer lleoliad, anfonwch lythyr gyda'ch c.v. i artsactive@caerdydd.gov.uk.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y math o leoliad yr hoffech ei gael a'r dyddiadau y byddech ar gael.

A allaf i gael lleoliad gyda'ch adran gwisgoedd a cholur?
Na chewch. Does dim un gennym.  Mae'r Theatr Newydd a Neuadd Dewi Sant yn lleoliadau derbyn sy'n golygu bod cynyrchiadau'n defnyddio eu staff eu hunain.  Gall fod yn bosibl os ydych chi'n gallu cysylltu â'r cwmni cynhyrchu'n uniongyrchol.


SWALLOWS & AMAZONS - GWEITHDY O'R LLYFR I'R LLWYFAN
Dydd Mercher 16 Mai 11.00am - Hanner dydd

Cyn gwylio'r matinée, dyma gyfle gwych i weld sut cafodd Swallows & Amazons ei addasu ar gyfer y llwyfan. Dewch i gael blas ar yr ymarferion a gweld sut mae holl elfennau creadigol y theatr yn dod ynghyd, yn ogystal â chyfle i holi aelodau'r cwmni. Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM, ac yn addas i grwpiau ysgol Cyfnod Allweddol 2 a 3 - gan gynnig golwg fanylach a gwell dealltwriaeth o'r stori boblogaidd hon am hwyl a hoen yr ifanc ar nosweithiau braf o haf. Rhaid archebu lle drwy'r swyddfa docynnau.

Education and Resource pack (PDF format) / Dadlwythwch y pecyn Adnoddau ac Addysg (fformat PDF).  Mae'r pecyn yma wedi cael ei creu gan yr cwmi gynhyrchiad, ac yn ar gael yn Saesneg yn unig

ROYAL SHAKESPEARE COMPANY: JULIUS CAESAR
O'r llyfr i'r llwyfan - Dydd Iau 25 Hydref, £3 y myfyriwr, Amser i'w gadarnhau

Cynhelir sesiwn gyda'r actorion a'r criw creadigol cyn y perfformiad matinée Dydd Iau 25 Hydref. Bydd y digwyddiad hwn yn nodi'r gwahanol ffyrdd o ddehongli'r testun gan y cyfarwyddwr a'r actorion wrth ymarfer a chynhyrchu'r ddrama. Rhaid archebu llefydd wrth brynu'r tocynnau matinée yn y swyddfa docynnau.


Gamelan Caerdydd - Set o offerynnau taro efydd Javaneaidd Neuadd Dewi Sant
Mae cyfle i ysgolion gael blas ar ddefnyddio offerynnau gamelan Javaneaidd gydol y tymor.

Criw Gamelan Bob prynhawn Mawrth 4.30pm-5.30pm, o 17 Ionawr ymlaen
Sesiynau perfformio gyda gamlan Javaneaidd Neuadd Dewi Sant, addas i blant 4 - 7 oed.

Gamelan Caerdydd Bob nos Fawrth 6.00pm-8.00pm, o 10 Ionawr ymlaen
Ensemble gamelan i cymunedol oedolion. Croeso i berfformwyr o bob gallu.


Future Dance Cardiff

Summerdance 2012
Nos Sadwrn 11 Awst 7.30pm

Mae Future Dance Cardiff yn rhoi llwyfan i ddawnswyr ifanc penigamp summerdance 2012.

Os yw dawns arloesol a cherddoriaeth fyw yn apelio atoch, da chi dewch i fwynhau ffrwyth y bartneriaeth hon rhwng Arts Active, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Eleni, bydd criw o ddawnswyr 14-21 oed yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant dan gyfarwyddwyd Roy Campbell-Moore, Cyfarwyddwr Artistig Cyswllt y Cwmni Dawns Cenedlaethol.

Tocynnau £8 (£6 gostyngiadau)
Swyddfa Docynnau - 029 2087 8444
www.stdavidshallcardiff.co.uk


Associates
Dosbarth techneg dawns wythnosol i bobl ifanc 14-19 oed sydd eisiau mynd ymlaen i gael hyfforddiant dawns proffesiynol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a ffurflen gais ar-lein

Mae Actifyddion Artistig yn anfon gwybodaeth yn rheolaidd i ysgolion drwy'r post, felly os ydych chi'n athro sydd am gael gwybod mwy, cysylltwch â ni!


Rydyn ni ar Facebook - chwiliwch am Arts Active

A2:Arts Active | 029 2087 8570 | neu e-bost artsactive@cardiff.gov.uk | Anfonwch ffacs i 029 2087 8550

Neu ysgrifennwch at Actifyddion Artistig Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH