Amodau a Thelerau
Cyfleuster a ddarperir gan Gyngor Sir Caerdydd yw'r New Theatre
a chyfeirir ato wedi hyn fel y "New Theatre"
Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr holl wybodaeth hyrwyddo
a ddarperir yn gywir, cynghorir chwi i gymryd camau priodol i
gadarnhau gwybodaeth o'r fath. Mae'r New Theatre yn benodol yn
ymwadu â phob atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod
uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir o ganlyniad
i ddibyniaeth y defnyddiwr ar unrhyw ddatganiadau, gwybodaeth neu
gyngor yn neunydd darllen y New Theatre, ar y wefan neu mewn unrhyw
ddeunydd hyrwyddo arall o eiddo'r sefydliad.
Trwy dderbyn eich archeb mae contract cyfeithiol-rwym yn cael ei
greu rhyngoch a'r New Theatre. Caiff y contract hwn ei lywodraethu
gan gyfraith Lloegr a'i ddehongli yn unol â hi, a llysoedd Lloegr
fydd â'r awdurdodaeth i ddatrys unrhyw anghydfod.
Trwy archebu rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion a ddarperir
gennych at ddibenion archebu nwyddau neu wasanaethau neu ofyn
amdanynt neu eu prynu yn gywir, mai eich cerdyn credyd neu ddebyd
eich hun a ddefnyddir gennych a bod yna ddigon o arian i dalu am y
tocyn neu'r gwasanaeth. Os bydd unrhyw newid i'r manylion a
ddarparwyd gennych eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni.
Dim on dos oes tocynnau ar gael y gellir eu gwerthu i chi.
Dim ond i wylio'r perfformiad y gwerthwyd y tocyn ar ei gyfer y
gellir defnyddio unrhyw docyn a hynny ar yr amod nad yw wedi ei
werthu na'i gyfnewid am bris uwch na'r hyn a dalwyd yn Swyddfa
Docynnau New Theatre. Ni fydd unrhyw docyn sydd wedi ei werthu gan
dorri'r amod hwn yn ddilys ac ni chaiff deiliad y tocyn fynediad
i'r perfformiad.
Mae gan staff y New Theatre yr awdurdod i wrthod mynediad i'r
theatre ac yn cadw'r hawl i wneud hynny os, yn ei barn ddiamod hwy
bod eich ymddygiad yn debygol o amharu neu darfu ar unigolion
eraill sy'n mynychu'r theatr. Mae'r New Theatre yn cadw'r hawl
hefyd i ddwyn eich hawl i fod ar yr eiddo i ben ac i'ch symud oddi
yno dan amgylchiadau tebyg.
Rhaid i bob aelod o'r gynulleidfa feddu ar docyn dilys. Ni fydd
tocynnau sydd wedi'u newid neu eu difwyno yn ddilys.
Nid yw cadarnhad bod eich archeb wedi'i dderbyn ar yr e-bost yn
gwarantu y bydd tocyn yn cael ei werthu i chi (gwerthiannau'r
rhyngrwyd yn unig).
Gwiriwch eich tocynnau gan na ellir cywiro camgymeriadau bob
amser.
Mae'r New Theatre yn cadw'r hawl i newid neu amrywio perfformiad
/ digwyddiad o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth
heb orfod ad-dalu arian neu gyfnewid tocynnau. Nid yw hyn yn
effeithio ar eich hawliau statudol.
Nid yw'r New Theatre yn gallu gwarantu y bydd perfformiwr neu
berfformiad yn bodloni'ch disgwyliadau personol. Y rheswm yw bod
disgwyliadau a chwaeth bersonol yn amrywio'n helaeth. Yn ogystal,
nid yw'r New Theatre yn gallu gwarantu na fydd iaith, ymddygiad neu
ymddangosiad unrhyw berfformiwr yn eich tramgwyddo. Cynghorir chi i
wneud ymholiadau yn y Swyddfa Docynnau cyn prynu tocyn os oes
gennych unrhyw bryderon am natur perfformiad. Bydd polisi ad-dalu'r
New Theatre yn berthnasol.
Mae'r New Theatre yn gwerthfawrogi ymrwymiad mynychwyr y theatr
i archebu'n gynnar ac yn cydnabod weithiau bod argyfwng yn eu
rhwystro rhag mynychu, Mae'r ddau wasanaeth canlynol ar gael.
Dan yr amgylchiadau canlynol gellir cyfnewid tocynnau am
ddiwrnod arall am yr un pris (neu bris uwch o dalu'r gwahaniaeth).
Rhaid i Swyddfa Docynnau'r New Theatre dderbyn y tocynnau o leiaf
48 awr cyn y perfformiad cyntaf. Mae tâl o £1.00 y tocyn am y
gwasanaeth cyfnewid hwn.
Fel arall, derbynnir tocynnau i'w cynnig i'w hailwerthu ar y
ddealltwriaeth gaeth y bydd tocynnau'r New Theatre sydd heb eu
gwerthu yn cael eu gwerthu'n gyntaf. Cynigir y gwasanaeth ailwerthu
hwn ar yr amod eich bod yn derbyn nad yw'r New Theatre yn gwarantu
y ceir hyd i brynwr newydd ar gyfer unrhyw docyn fydd yn cael ei
gynnig i'w ailwerthu. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn unig os yw'r
tocynnau gwreiddiol yn cael eu dychwelyd yn gyntaf i'r Swyddfa
Docynnau a'ch bod yn cytuno ymlaen llaw i dalu 10% yn ychwaneg am y
gwasanaeth hwn ar bris unrhyw docyn a werthir.
Ar wahân i'r ddau wasanaeth uchod neu os bydd perfformiad yn
cael ei ganslo nid oes unrhyw ad-daliadau neu ran o ad-daliad ar
gael ar ôl prynu tocyn.
Mae meddu ar docyn dilys yn caniatáu mynediad i'r deiliad i'r
awditoriwm yn union cyn i'r perfformiad gychwyn ond unwaith y bydd
perfformiad wedi cychwyn mae'r canlynol yn berthnasol. Er mwyn
osgoi tarfu ar y gynulleidfa a'r perfformwyr, ni fydd
hwyr-ddyfodiad yn cael mynediad i'r awditoriwm tan y toriad. Gall
fod yn bosib dilyn perfformiad ar deledu cylch cyfun yn y
barau.
Gwaherddir gwneud recordiad a thynnu lluniau gyda fflach neu heb
un.
Rhaid diffodd cyfleuster canu eich ffôn symudol pan fyddwch yn
yr awditoriwm neu yn y cyffiniau. Yn yr un modd, ni ddylech siarad
ar eich ffôn symudol yn yr awditoriwm nac yn y cyffiniau. Mewn
argyfwng, gallwch siarad ar eich ffôn symudol wrth ymyl y Swyddfa
Docynnau ond heblaw hynny rhaid i chi fynd y tu allan i'r
theatr.
Mae Bocsys wedi'u trwyddedu i 6 o bobl ond rydym yn argymell yn
gryf y dylid cyfyngu'r nifer i 4 er mwyn bod yn rhesymol esmwyth.
Fe'ch rhybuddir mai dim ond rhan o'r llwyfan welwch chi o'r ochr
weithiau. Gwnewch ymholiadau cyn prynu tocynnau ar gyfer Bocsys gan
fod y polisi ad-dalu yn berthnasol ar ôl eu prynu.
Ni chaniateir ysmygu yn y New Theatre.
Dylid cyflwyno unrhyw gwynion am sioe neu olwg o'r seddi i'r
Rheolwr ar Ddyletswydd yn ddiymdroi, cyn neu yn ystod y
perfformiad.
Mae'r New Theatre yn cadw'r hawl iddynt hwy neu drydydd partïon
wneud gwaith ffilmio a recordio sain cyffredinol yn yr adeilad ac
yn y cyffiniau. Mae prynu tocyn yn arwydd o ganiatâd y deilydd i
gael ei lun wedi'i dynnu neu i recordiad sain gael ei wneud ac i
ecsbloetio'n fasnachol unrhyw recordiad neu ffilm heb hawl i gael
tâl. Rhaid i unrhyw ddeilydd tocyn sy'n gwrthwynebu i'w lun gael ei
dynnu neu iddo gael ei recordio ddweud wrth y Rheolwr ar
Ddyletswydd cyn dechrau'r perfformiad.
Cynigir GOSTYNGIADAU PLANT i bobl ifanc os ydynt yn dal yn yr
ysgol. Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod y ffaith bod gostyngiad
ar gael i blant yn golygu y byddech yn ystyried y sioe yn addas i
bawb yn y categori hwn. Mae eich barn fel rhieni/gwarcheidwaid o
ran beth sy'n addas i oed penodol yn amrywio'n helaeth, felly rhaid
i chi fodloni eich hun o ran pa mor addas yw sioe trwy holi yn y
Swyddfa Docynnau yn gyntaf.
Nid yw'r New Theatre o'r farn bod unrhyw berfformiad byw yn
addas i blant ifanc iawn. Gofynnir i chi beidio â mynychu gyda
phlant dan 2 flwydd oed. Mae'n bosib y gofynnir i chi adael yr
awditoriwm os ydych yng nghwmni plentyn sy'n aflonydd neu yn crio
ac sy'n tarfu ar berfformwyr neu gynulleidfa.
Mae arweinwyr grwpiau ieuenctid (gan gynnwys grwpiau ysgol) yn
gyfrifol am ymddygiad eu grwp. Nid yw'r New Theatre yn derbyn
unrhyw gyfrifoldeb dros oruchwylio pobl ifanc sydd yn eich gofal.
Rhaid i chi sicrhau bod digon o staff goruchwylio yn dod gyda'ch
grwp. Gofynnir i'r grwp neu i rai o'r grwp adael y theatr os yw
perfformwyr neu gynulleidfa yn cael eu haflonyddu.
Wrth archebu gyda'r New Theatre bydd eich gwybodaeth bersonol yn
cael ei chadw ar system gyfrifiadurol y Swyddfa Docynnau. Trwy
archebu rydych yn rhoi caniatâd i'ch gwybodaeth bersonol gael ei
chadw yn unol â Deddfau Diogelu Data. Gofynnir i chi os gellir
defnyddio'r wybodaeth hon:
- ar gyfer rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynyrchiadau neu
ddatblygiadau'r dyfodol yn y New Theatre neu Neuadd Dewi Sant;
- gan sefydliadau celfyddydol eraill at ddibenion tebyg;
- gan sefydliadau eraill wedi'u dewis yn ofalus nad ydynt yn
gelfyddydol ar gyfer gwybodaeth bellach a all fod o ddiddordeb i
chi.
Nodwch ba opsiynau sy'n dderbyniol i chi. Bydd hyn yn ein
galluogi i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'ch
dymuniadau.
Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth am archebion cwsmeriaid
(heblaw am fanylion cardiau credyd) gydag asiantaethau allanol at
ddibenion dadansoddi. Bydd y New Theatre yn gwneud popeth posibl i
sicrhau fod y data hwn yn cael ei gadw'n ddiogel.
Mae prosesau'r New Theatre yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data
1998.
Mae ein gwefannau a'n Hysbysebion Swyddogol yn cael eu rheoli,
eu cynhyrchu a'u gweithredu gan y New Theatre o'n swyddfeydd yn y
Deyrnas Unedig. Nid yw'r New Theatre yn gwneud unrhyw ddatganiadau
bod y deunydd a'r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan neu sy'n
hygyrch trwyddi yn addas i'w defnyddio mewn Gwledydd eraill y tu
allan i'r DU.