• Billionaire Boy The Musical

    Mawrth 26 Chwefror - Sadwrn 2 Mawrth 2019

    Mawrth 7.00pm
    Mercher 2.30pm
    Iau a Gwener 2.30pm a 7.00pm
    Sadwrn 11.00am a 3.00pm

    Yn para: TBC
    Billionaire Boy The MusicalBillionaire Boy The MusicalBillionaire Boy The MusicalBillionaire Boy The MusicalBillionaire Boy The Musical

Un diwrnod, mae'r gweithiwr ffatri Len Spud yn dyfeisio papur toiled newydd "Bum Fresh - wet on one side, dry on the other". Mae'r sychwr slic yn llwyddiant ysgubol. Cyn hir, mae Len a'i fab Joe yn biliwnyddion dros nos, a'u bywydau wedi troi ben i waered.

Tra bod Mr Spud yn gwario fel slecs ar geir cyflym, teledu 100 modfedd, a rhoddion hael i'w wejen 'glam', Sapphire Stone, mae Joe yn gorfod ymorol am ei hun.

Ym myd didostur iard yr ysgol, mae pethau'n cymhlethu wrth i Joe daclo cwrs rhwystrau o fwlis yn yr ysgol a bwyd ofnadwy'r ffreutur.

All arian brynu gwir hapusrwydd?

Wedi'i seilio ar lyfr poblogaidd David Walliams, mae'r sioe gerdd ddoniol newydd hon yn wledd i'r teulu cyfan ac wedi'i chyflwyno gan griw'r NST yn dilyn llwyddiant Fantastic Mr Fox.

Does dim dal y bydd pob pris ar gael.

Gostyngiadau

Mawrth 7.00pm
£13.00 - £17.00

Perfformiadau Mercher - Gwener
£13.50 - £23.00

Perfformiadau Sadwrn
£14.00 - £25.50

Bocsys o (uchafswm o 6 o bobl)
£72.00 - £118.00

Safonol Gostyngiadau: £2.50 off
Perfformiadau Mercher - Sadwrn

Grwpiau (8+): £2.50 off
Perfformiadau Mercher - Sadwrn

Dan 16 oed: £3.00 off
Pob perfformiadau

Hynt
 

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad â phenawdau

02 Maw 2019 3:00 pm
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.