Sioe deyrnged i Buble a Sinatra, yr agosaf posibl at y
cantorion go iawn eu hunain. Cewch gyfle i ddilyn Frank Sianatra
wrth iddo deithio drwy amser o'r 1950au i gwrdd â'r Canadiad cyfoes
sydd yn ei dilyn yn ôl ei droed. Pwy fydd eich hoff
berfformiwr chi pan ddaw'r ddau fyd at ei gilydd mewn noson
wefreiddiol sy'n gadael y ffans yn ysu am fwy…boed i'r frwydr
ddechrau…
Bydd 'cyngerdd fawr y ganrif - y gyngerdd na fu' yn
cynnwys Michael Buble yn canu ei ganeuon poblogaidd i gyd a Frank
Sinatra'n cyflwyno rhai o'i glasuron. Yn llawn hwyl a chyffro, bydd
band byw llawn yn gyfeiliant i'r ddau ganwr poblogaidd.
Rhaid i chi weld 'Buble' Jame Flanagan i'w gredu - mae ei
lais, y ffordd mae'n symud, ei acen Ganadaidd i gyd yn hynod debyg
i'r dyn mawr ei hun. Kevin Fitzsimmons sy'n ymuno ag ef i
bortreadu Frank Sinatra - ac mae ei bortread e o'r cawr o gantor yn
gwbl argyhoeddedig. Does rhyfedd mai ef yw'r unig ddynwaredwr Frank
Sinatra sydd wedi cael sêl bendith Cynrychiolydd teulu Sinatra yn
Ewrop.
Gostyngiadau
Pob perfformidau
£22.50 - £29.50
Bocsys (uchafswn o 6 bobl)
£120.00 - £140.00
Dan 16 oed: £20.00
Cynllun eistedd
Gweld ein cynllun seddi isod

Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.