• Cilla the Musical

    Mawrth 31 Hydref - Sadwrn 4 Tachwedd 2017

    Hwyr 7.30pm;
    Matinee Mercher, Iau a Sadwrn 2.30pm
    Cilla the MusicalCilla the MusicalCilla the MusicalCilla the Musical
Cyfarwyddwyd gan Bill Kenwright a Bob Tomson
Cynhyrchydd Gweithredol: Robert Willis
Cynllunio: Gary McCann
Sain: Dan Samson

Addasiad ysblennydd a thwymgalon o gyfres hynod boblogaidd ITV gan Jeff Pope, enillydd sawl gwobr BAFTA, yw Cilla - the Musical. Mae'n adrodd hanes anhygoel merch gyffredin o Lerpwl â breuddwyd o fod yn seren ac esgyn i ffurfafen adloniant poblogaidd Prydain.

Wedi i'r John Lennon ifanc ei chyflwyno i'r maestro cerddorol Brian Epstein, mae bywyd Priscilla White yn newid am byth. Erbyn iddi gyrraedd 25 oed, mae'n enwog fel y gantores a'r seren deledu Cilla Black, ac ar frig y siartiau pop Prydeinig. Dyma drac sain perffaith y 60au, sy'n cynnwys rhai o ganeuon mwyaf Cilla fel Anyone Who Had a Heart, Alfie a Something Tells Me, Twist and Shout gan y Beatles, California Dreamin' gan The Mamas and The Papas a llawer mwy.

HyntGwefan y sioe
 

† Nid yw'r New Theatre Caerdydd yn gyfrirol am gynnwys gwefan unrhyw drydydd parti.

 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.