Mae KEVIN CLIFTON
a'r cwmni dawns neuadd sy'n enwog yn fyd-eang BURN THE FLOOR yn
dychwelyd yn 2021! Bydd y cynhyrchiad dawnsio neuadd tanbaid,
egnïol a chwyldroadol hwn yn tanio'r llwyfan unwaith eto gan
ddangos i'r cynulleidfaoedd pam mai nhw yw prif sioe dawns neuadd y
byd o hyd ar ôl mwy nag ugain mlynedd. Mae cymysgedd o gerddoriaeth
fyw eclectig, coreograffi trawiadol a symudiadau arloesol, gyda'r
sioe hon yn gyforiog o egni ac angerdd heintus, gwrthryfelgar.
Teimlwch ddwyster y Tango angerddol, gadewch eich hun i gael eich
swyno gan rhamant y Walts a chael eich cyfareddu gan y Rhumba
atyniadol. Yn cynnwys KEVIN CLIFTON, un o'r dawnswyr proffesiynol
mwyaf llwyddiannus i ddod allan o Strictly Come Dancing, BURN THE
FLOOR yw'r sioe i wylio yn 2021! Nid perfformiad "teimlo'n
gadarnhaol" yn unig, rydym o ddifrif yn Sioe "teimlo'n ffantastig"!
Peidiwch â cholli eich cyfle i brofi'r llawenydd dawns pur BURN THE
FLOOR
Dwedodd KEVIN CLIFTON"BurnTheFlooryw'r sioe a gynnau wreichionen
ynof a newid fi am byth fel perfformiwr.Trwy Broadway, y West End a
theithio ar draws y byd mae'r sioe hon wedi rhwygo'r llyfr rheolau,
gan chwyldroi ein genre a'm hysbrydoli a'm siapio fel y dawnsiwr
ydw i heddiw."
Gwybodaeth am Gyfarfod a Chyfarch
VIP: Mae'r tocynnau cwrdd a chyfarch VIP yn
£94 yr un ac ar gyfer 2 res flaen y stalau.
Mae'r Cyfarfod a Chyfarch VIPCYN Y SIOE, 90 munud cyn i'r
perfformiad ddechrau. Mae'r Cyfarfod a Chyfarch yn cynnwys cwrdd â
Kevin i gael cyfle i dynnu lluniau a chael llofnod, yn ogystal ag
anrheg arbennig unigryw. Rhaid i bob deiliad tocyn VIP gyrraedd o
leiaf 10 munud cyn yr amser cyfarfod a chyfarch, gan na chaniateir
pobl yn dod yn hwyr.