• Legally Blonde

    Llun 20 - Sadwrn 25 Tachwedd 2017

    Llun - Iau 7.30pm;
    Gwener 5.00pm ac 8.30pm;
    Sadwrn 4.00pm ac 8.00pm
    Legally BlondeLegally Blonde
Gyda Rita Simons fel Paulette Bonafonte

Mae llwyddiant ysgubol ar Broadway a'r West End sy'n seiliedig ar ffilm hynod o ddoniol, yn olrhain hanes y ferch boblogaidd Elle Woods sydd wedi mopio ar faldod a mwythau ac yn binc o'i chorun i'w sawdl. Ar ôl i'w sboner Warner Huntingdon III ei gadael am ferch tipyn mwy difrifol, mae Elle yn ffeirio'i chardiau credyd am lyfrau. Gyda Bruiser ei chi bach ffyddlon yn gwmni iddi, mae'n bachu lle mewn ysgol gyfraith o fri yn Harvard er mwyn denu ei chariad yn ôl. Gyda chymorth ei ffrindiau newydd daw i ddysgu bod modd i chi fod yn beniog a ffasiynol yr un pryd.

Mae Rita Simons fwyaf adnabyddus fel Roxy Mitchell yng nghyfres y BBC, EastEnders, wedi ennill gwobrau lu ac mae'n un o hoff actoresau Prydain.

Mae'r sioe gomedi hon yn llawn dop o ganu, dawnsio a chwerthin, ac yn wledd binc berffaith - felly bachwch eich tocynnau heddiw!

Eich dewis o brisiauLlun 7.30pm a Gwener 5.00pmMawrth - Iau 7.30pm a Sadwrn 4.00pmGwener 8.30pm a Sadwrn 8.00pm
Llawr gwaelodA-P£26.50£36.50£40.50
Q-S£26.50£31.50£35.50
T-U£26.50£27.50£31.50
CylchA-F£26.50£36.50£40.50
G-M£26.50£31.50£35.50
Cylch UchafA-D£26.50£27.50£31.50
E-F£17.50£17.50£21.50
Bocsys *£121.00£157.00£185.00
£107.00£135.00£163.00
Lle i gadair **£17.50£17.50£21.50
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Ychwanegir Tâl Gwasaneath Tocynnau o £3.95 at bob archeb (mae rhai eithriadau).
Postio i gyfeiriad yn y DU yn cael ei godi yn £1 (dewisol)

Gostyngiadau

Ar gyfer nos Fawrth i nos Iau 7.30pm a Sadwrn 4.00pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £4.00 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor; Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Plant, Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr.

Hynt
 

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad â phenawdau

24 Tach 2017 5:00 pm
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.