Clasur. Arloesol. Chwedlonol.
Mae The Mousetrap yn enwog ledled y byd fel y
sioe fwyaf hirhoedlog yn hanes y theatr ym Mhrydain, a chyda 23,000
a mwy o berfformiadau, mae'n destun balchder mawr. I ddathlu
pen-blwydd arbennig y ddrama lwyfan yn drigain oed, mae'n mynd ar
daith am y tro cyntaf erioed - a dyma'ch cyfle unigryw chi i weld y
campwaith hwn yn y New Theatre.
Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae'r Fonesig Agatha Christie wedi
creu awyrgylch arbennig o ddirgelwch iasol a phlot gwefreiddiol o
gywrain lle mae llofruddiaeth yn llechu ym mhob cornel.
Enwau actorion o fri i ddod.
Hyd y Sioe: 2a 20m
Amcan o hyd y sioe yw hwn ac fe'i rhoddir
fel arweiniad yn unig
| Eich dewis o brisiau | Llun - Iau 7.30pm a Sadwrn 2.30pm | Mercher a Iau 2.30pm | Gwener a Sadwrn 7.30pm |
| Llawr gwaelod | A-P | £27.00 | £22.00 | £29.00 |
| Q-S | £23.00 | £18.00 | £26.00 |
| T-U | £17.00 | £15.00 | £19.00 |
| Cylch | A-F | £28.00 | £23.00 | £30.00 |
| G-M | £23.00 | £18.00 | £26.00 |
| Cylch Uchaf | A-D | £17.00 | £15.00 | £19.00 |
| E-F | £8.50 | £8.00 | £9.00 |
| Bocsys * | £116.00 | £94.00 | £142.00 |
| £80.00 | £68.00 | £92.00 |
| Lle i gadair ** | £8.50 | £8.00 | £9.00 |
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf. ** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un). Codir tâl ychwanegol bychan am archebu ar-lein. |
Rydym yn codi tâl ychwanegol o 50c y tocyn fel Cyfraniad at Wellar Seddi. Mwy o fanylion yma.
Gostyngiadau
Ar gyfer nos Fawrth i nos Iau 7.30pm a Sadwrn 2.30pm yn Seddau'r
Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £3.50 ar
gyfer Grwpiau o 8 neu ragor, Plant, Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl
Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr, Deiliaid Cerdyn
MAX.
DROS 60 OED: £12.00 ar gyfer perfformiadau Mercher 2.30pm a Iau
2.30pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn
unig
MANTAIS MYFYRIWR: £5.00 ar gyfer perfformiad gyda'r hwyr (heblaw
nos Sadwrn) ar ôl 6pm.
Beth mae'r papurau yn eu dweud...
"The cleverest murder mystery of British
Theatre"
The Telegraph
"A truly entertaining classic
thriller"
The Sunday Times
"Deservedly a classic among murder
thrillers"
The Observer
Cynllun eistedd
Gweld ein cynllun seddi isod