• Northern Ballet: Cinderella

    Mawrth 8 - Sadwrn 12 Ebrill 2014

    Hwyr 7.30pm
    Matinee Iau a Sadwrn 2.30pm
    Northern Ballet: CinderellaNorthern Ballet: CinderellaNorthern Ballet: CinderellaNorthern Ballet: Cinderella

Wedi'i gosod yng nghyfnod Ymerodraeth Rwsia, pan oedd hud a lledrith yn agos at galonnau'r werin ofergoelus, mae addasiad newydd Northern Ballet o'r clasur hwn ymhlith straeon tylwyth teg yn dangos torcalon yn troi'n llawenydd wrth i rym anorchfygol cariadon ifanc drechu pob dim.

Mae diwrnod hyfryd o haf yn diweddu mewn trychineb. A hithau'n galaru am ei thad, a'i hanwybyddu gan ei llysfam a'i chwiorydd creulon, mae Cinderella yn chwilio am gysur ar y llyn rhewllyd lle caiff ei swyno gan ei Thywysog am y tro cyntaf.

Wrth i ramant flodeuo, mae cyfarfyddiad hudolus yn y farchnad yn newid ffawd Cinderella am byth.

Dewch am dro drwy Rwsia goeth a chain, gyda golygfeydd gaeafol trawiadol  a neuaddau dawns ysblennydd wedi'u creu gan Duncan Hayler (Beauty & the Beast, A Midsummer Night's Dream). Gyda sgôr newydd gan Phillip Feeney wedi'i pherfformio'n fyw gan y Northern Ballet Sinfonia, dyma fale bythgofiadwy na ddylech ei fethu

Sgwrs gyda Chris Hinton-Lewis ar ôl y sioe - Dydd Iau 10 Ebrill

Ar ôl y perfformiad o Cinderella am 7.30pm ddydd Iau 10 Ebrill, bydd y Cyfarwyddwr Artistig David Nixon yn cynnal sgwrs. Mae'r sgwrs am ddim a gall unrhyw un sydd â thocyn ar gyfer unrhyw un o berfformiadau Cinderella gan y Northern Ballet fynychu

 

Hyd y sioe: 2h 15m
Amcan o hyd y sioe yw hwn ac fe'i rhoddir fel arweiniad yn unig

Eich dewis o brisiauHwyrIau 2.30pmSadwrn 2.30pm
Llawr gwaelodE-K£27.00£17.00£20.50
L-S£23.50£15.00£18.00
T-U£18.50£13.50£16.00
CylchA-F£28.00£18.00£21.50
G-M£23.50£15.00£18.00
Cylch UchafA-D£18.50£13.50£16.00
E-F£10.00£9.00£9.50
Bocsys *£126.00£79.00£98.00
£107.00£61.00£81.00
Lle i gadair **£10.00£9.00£9.50
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Codir tâl o £1.75 y tro am archebu ar-lein.

Mae'r prisiau a ddangosir yn cynnwys 50c ychwanegol y tocyn fel Cyfraniad at Wella'r Seddau Mwy o fanylion yma.

Gostyngiadau

Ar gyfer nos Fawrth i nos Wener 7.30pm  yn Seddau'r Llawr Gwaelod E-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor:  Gostyngiad o £3.00 ar gyfer Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr.

 DAN 16 OED: £13.50 ar gyfer pob perfformiad yn Seddau'r Llawr Gwaelod E-U, y Cylch A-M a'r Cylch Uchaf A-D

GRWPIAU YSGOL: £8.00 yr un ar gyfer perfformiadau Iau 2.30pm  - athrawon sy'n arolygu am ddim (1 athro am bob 10 myfyriwr)

Beth mae'r papurau yn eu dweud...

A dazzling production of the Cinderella story shows off Northern Ballet's technical and dramatic skills to the max
The Telegraph 

 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod