• Orbit Theatre: Chitty Chitty Bang Bang

    Mercher 30 Mai - Sul 3 Mehefin 2018

    Orbit Theatre: Chitty Chitty Bang Bang

Dewch ar antur gerddorol ffantastig gyda char heb ei debyg sy'n hedfan drwy'r awyr ac yn hwylio'r moroedd. Mae Chitty Chitty Bang Bang yn seiliedig ar ffilm hynod boblogaidd 1968 o lyfr plant Ian Fleming, ac yn cynnwys sgôr bythgofiadwy gan gyfansoddwyr Mary Poppins. Dyma'r sioe gerdd berffaith i'r teulu a fydd yn "Truly Scrumptious" i bawb yn y gynulleidfa.

Mae dyfeisiwr ecsentrig, Caractacus Potts, yn mynd ati i adfer hen gar rasio a gafodd o domen sgrap gyda chymorth ei blant Jeremy a Jemima. Cyn hir maen nhw'n darganfod bod gan y car nodweddion hudol, gan gynnwys y gallu i arnofio a hedfan. Ond mae'r helbulon yn cychwyn pan fo'r dihiryn, y Baron Bomburst, yn rhoi ei fryd ar gael y car hud iddo'i hun. Mae'r teulu'n cael help llaw gan Truly Scrumptious a Grandpa hurt.

Ymunwch â Theatr Orbit, cwmni amatur gorau Cymru ar gyfer gwledd hanner tymor 'fantasmagorical'.

Does dim dal y bydd pob pris ar gael.

 

Gostyngiadau

Pob perfformiad
£14.00 - £26.00

Bocsys o (uchafswm o 6 o bobl)
£80.00 - £110.00

Safonol Gostyngiadau : £3.00 off
Mawrth - Gwener 7.30pm

Grwpiau (8+): £3.00 off
Mawrth - Gwener 7.30pm

Dros 60 oed: £16.00 yr un
Mercher 2.00pm & Iau 2.00pm

Hynt
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.