• A Judgement in Stone

    Mawrth 4 - Sadwrn 8 Ebrill 2017

    Hwyr 7.30pm
    Matinee Mercher, Iau a Sadwrn 2.30pm
    A Judgement in StoneA Judgement in StoneA Judgement in StoneA Judgement in StoneA Judgement in Stone
Gyda Andrew Lancel
Sophie Ward
Mark Wynter
Deborah Grant
Shirley Anne Field
Antony Costa
Ben Nealon

AR ÔL DENG MLYNEDD O'R AGATHA CHRISTIE COMPANY, STORI IAS A CHYFFRO NEWYDD GAN YR AWDUR TROSEDD  BENYWAIDD GORAU ERS CHRISTIE 

Dyw Eunice ddim yn perthyn yn unman rywsut. Pan mae'n ymuno â theulu cefnog fel howsgipar, mae'r gwir reswm am ei chwithigrwydd cudd yn deillio o achos erchyll o lofruddiaeth mewn gwaed oer - ar ddydd Sant Ffolant. Mae plot gwych Ruth Rendell yn datgelu oes o dwyll, anobaith a chyfrinachau du sydd, pan ddônt i'r wyneb, yn datgelu rhywbeth arswydus, bron mor erchyll â'r llofruddiaeth ei hun.

Dan arweiniad Andrew Lancel (Coronation Street, The Bill), mae'r cast yn cynnwys actores boblogaidd o fyd ffilm, teledu a'r theatr Sophie Ward a chwaraeodd ran y cariad anffodus yn Young Sherlock Holmes a Dr Helen Trent yn nrama hirhoedlog ITV Heartbeat, y seren bop o'r chwedegau Mark Wynter ydd wedi ymddangos mewn saith o gynyrchiadau gan yr Agatha Christie Company, Deborah Grant (Not Going Out, Bergerac), yr eicon ffilm Shirley Anne Field a ddaeth yn enwog dros nos am ymddangos mewn dwy ffilm flaengar The Entertainer gyda Syr Laurence Olivier, a Saturday Night and Sunday Morning  gydag Albert Finney, Antony Costa, un o sêr y siartiau pop fel aelod o'r grŵp Blue a Ben Nealon, sy'n un o hoelion wyth yr Agatha Christie Company a ymddangosodd yng nghyfres ddrama o fri ITV, Soldier Soldier. 

Gan adeiladu ar ddegawd o lwyddiant anhygoel The Agatha Christie Theatre Company, gwerthu dros ddwy filiwn o docynnau a pherfformio mewn theatrau llawn dop ledled y DU, mae Bill Kenwright yn cyflwyno cynhyrchiad newydd wedi'i addasu o un o lyfrau gorau awdur y cyfeirir ati'n aml fel olynydd Agatha Christie.

Wedi'i chanmol am adfywio'r genre straeon dirgelwch, cyhoeddodd Ruth Rendell ei chyfrol gyntaf ym 1964 a chafodd CBE ym 1996. Mae ei chynnyrch toreithiog yn cynnwys ffilmiau a chyfresi teledu yn ogystal ag 80 o nofelau ac un o gymeriadau enwoca'r genre, y Prif Arolygydd Wexford.  Mae A Judgement in Stone yn cael ei ystyried gyda'r gorau o weithiau Rendell, ac yn enwog am y cymeriadu, y plot a'r cymhelliant celfydd - heb os, dyma Frenhines Troseddau Seicolegol ar ei gorau.

Eich dewis o brisiauMawrth - Iau 7.30pm a Sadwrn 2.30pmMercher 2.30pm a Iau 2.30pmGwener a Sadwrn 7.30pm
Llawr gwaelodA-P£28.00£21.50£31.50
Q-S£24.00£18.00£28.00
T-U£19.00£15.00£22.00
CylchA-F£29.00£22.00£32.50
G-M£24.00£18.00£28.00
Cylch UchafA-D£19.00£15.00£22.00
E-F£12.00£11.00£13.00
Bocsys *£130.00£98.00£146.00
£108.00£80.00£126.00
Lle i gadair **£12.00£11.00£13.00
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Ychwanegir Tâl Gwasaneath Tocynnau o £3.95 at bob archeb (mae rhai eithriadau).
Postio i gyfeiriad yn y DU yn cael ei godi yn £1 (dewisol)

Gostyngiadau

Ar gyfer nos Fawrth i nos Iau 7.30pm a Sadwrn 2.30pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor, Plant, Myfyrwyr, Dros 60 eod, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr

DROS 60 OED: £18.00 ar gyfer performiadau Mercher 2.30pm a Iau 2.30pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-P a'r Cylch A-F yn unig

MANTAIS MYFYRIWR: £5.00 ar gyfer perfformiad gyda'r hwyr (heblaw nos Sadwrn) ar ôl 6pm.

HyntDigwyddiad React
 

Perfformiadau Hygyrch

Disgrifiad clywedol byw

Disgrifiad clywedol byw

08 Ebr 2017 2:30 pm
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.