'Drychwch pwy sydd wedi symud i mewn i'r
gymdogaeth!
Mae hoff deulu gwallgof pawb yn camu'n ôl i'r llwyfan yn y
comedi cerddorol trawiadol hwn gan awduron JERSEY BOYS, sioe gerdd
sydd wedi ennill gwobrau lu, gyda cherddoriaeth a'r geiriau gan
Andrew Lippa, a enwebwyd am WOBR TONY, a gyda Samantha Womack yn
serennu fel Morticia a Cameron Blakely fel
Gomez.
Mae Wednesday Addams, tywysoges y tywyllwch, wedi tyfu'n
hŷn ac mae ganddi gyfrinach na ŵyr neb amdani heblaw am Gomez. Mae
hi wedi cwympo mewn cariad gyda dyn ifanc annwyl o deulu parchus.
Gyda'i wraig annwyl Morticia yn amau dim, a fydd Gomez yn llwyddo i
gadw cyfrinach ei ferch hyd nes bod y ddau deulu yn cwrdd am ginio
tyngedfennol gyda chanlyniadau doniol?
Ymunwch â nhw, ac Uncle Fester, Lurch, Pugsley a mwy am
stori galonogol am gariad, teulu a chyfeillgarwch… gydag elfen
annisgwyl!
Gan gynnwys cerddorfa fyw a sgôr wreiddiol arallfydol, mae
THE ADDAMS FAMILY yn siŵr o'ch diddanu p'un a ydych yn 12 oed neu'n
312!