• Swansea City Opera: The Barber of Seville

    Mawrth 20 Chwefror 2018

    7.30pm
    Swansea City Opera: The Barber of SevilleSwansea City Opera: The Barber of SevilleSwansea City Opera: The Barber of SevilleSwansea City Opera: The Barber of SevilleSwansea City Opera: The Barber of Seville
Cyfarwyddwyd gan Brendan Wheatley
Cynlluniwyd gan Gary McCann
Gwisgoedd gan Gabriella Ingram

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynhyrchiad hwn yn 2011, mae'n bleser gan Opera Dinas Abertawe gyflwyno The Barber of Seville, opera enwocaf Rossini, unwaith eto. Mae'r cwmni opera hwn yn enwog ledled y DU am ei berfformiad lliwgar o operâu comig, a dyw'r cynhyrchiad difyr hwn ddim gwahanol. Yn ffraeth ac yn llawn troeon annisgwyl, mae The Barber of Seville yn llawn sbort a sbri bob amser. Mae'r cynhyrchiad Saesneg hwn wedi'i osod yn Seville yr oes o'r blaen, gyda gwisgoedd dros ben llestri'r ddeunawfed ganrif yn ategu campwaith cerddorol Rossini i'r dim.

Mae uchelwr ifanc Sbaenaidd, yr Iarll Almaviva, mewn cariad â Rosina bert a chyfoethog, sydd yng ngofal Doctor Bartolo, tipyn o hen gi â'i fryd ar ei phriodi ei hun.  Ychwanegwch Figaro, barbwr busneslyd y dref, at y cyfan, a dyna chi siop siafins go iawn.

O aria gychwynnol enwog Figaro 'Largo al factotum' i ddiweddglo gwyllt a gwallgo'r Act gyntaf, mae'r Barber of Seville yn addo noson o adloniant pur llawn hiwmor a ffraethineb theatrig. Peidiwch â cholli'r cyfle i fwynhau'r opera hynod ddifyr hon mewn chwip o gyfieithiad newydd gan Bridgett Gill.

Tocynnau: £16.00 - £26.00

Gostyngiadau: £2.50 off
Grwpiau (8+): £2.50 off
Mantais Myfyriwr: £5.00

Does dim dal y bydd pob pris ar gael. Gostyngiaudau ar gael ar rai sioeau a phrisiau.

 

Hynt
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.