Mae'r stori syfrdanol a gydiodd yn nychymyg y byd bellach
yn gynhyrchiad llwyfan epig. Allwch chi ddatrys y cod a dirgelwch
Oes?
Mae curadur y Louvre wedi cael ei lofruddio, ac wrth ochr
ei gorff mae cyfres o godau rhyfedd. Dilynwch daith gyffrous yr
Athro Robert Langdon a'i gyd-gryptolegydd Sophie Neveu yn ceisio
datrys y posau, gan eu harwain at waith Leonardo da Vinci a'r tu
hwnt, i gorneli tywyllaf hanes. Mewn ras ddi-baid drwy strydoedd
Ewrop, rhaid i Langdon a Neveu ddehongli'r cod cyn i gyfrinach
hanesyddol frawychus gael ei cholli am byth.
Yn seiliedig ar y nofel sydd wedi gwerthu mwy na'r un
arall y ganrif hon, gyda dros 100 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu,
datglowch gyfrinachau'r DA VINCI CODE yn yr addasiad llwyfan cyntaf
erioed o'r ffenomen rhyngwladol. Wedi'i gyfieithu i dros 50 o
ieithoedd gwahanol, a'r awdur Dan Brown wedi'i enwi gan y Times yn
un o'r 100 person mwyaf dylanwadol yn y byd, a'r nofel wedi ei
haddasu'n ffilm hynod lwyddiannus a wnaeth dros $750 miliwn o elw,
mae'r DA VINCI CODE yn synnu rhywun bob eiliad. Nawr gallwch chi
fwynhau'r stori anhygoel yn fyw ar y llwyfan, wrth i Langdon a
Neveu ddilyn trywydd cliwiau a mynd ar ras i ddatgelu'r gwirionedd
yn un o anturiaethau mwyaf cyffrous y 2000 mlynedd
diwethaf.
'Cyffro gwyllt a gwallgof. Perffeithrwydd' The New York
Times
"Yr wyf wrth fy modd bod The Da Vinci Code yn cael
ei addasu ar gyfer y llwyfan, ac yn llawn cyffro gweld holl
bosibiliadau theatr fyw yn cyfoethogi'r stori hon. Mae'r tîm sydd â
gofal dros y cynhyrchiad wedi bod yn driw iawn i'r llyfr, ond bydd
hefyd yn dod â rhywbeth newydd i'r gynulleidfa, ac mae'n siŵr o fod
yn hynod gyffrous, cyflym, gwefreiddiol a difyr." Dan
Brown