• The Graduate

    Mawrth 20 - Sadwrn 24 Mehefin 2017

    Hwyr 7.30pm
    Matinee Iau a Sadwrn 2.30pm
    The GraduateThe GraduateThe Graduate
Addasiad llwyfan gan Terry Johnson
Yn seiliedig ar nofel Charles Webb
A’r sgript ffilm gan Calder Willingham a Buck Henry

Gyda Catherine McCormack fel Mrs Robinson
Jack Monaghan fel Benjamin Bratt

Yn y gomedi lwyddiannus hon o'r West End, daw cymeriadau bythgofiadwy o nofel sy'n garreg filltir a ffilm a enillodd sawl Oscar yn fyw ar lwyfan.

Mae Benjamin yn dychwelyd o'r coleg i fywyd o ddisgwyliadau uchel y dosbarth canol uchelgeisiol Americanaidd. Yr unig broblem yw bod meddwl am y dyfodol yn codi pwys arno. Pan mae'n cwrdd ag enaid hoff cytûn arall sydd wedi'i siomi a'i dadrithio, Mrs Robinson, ffrind gorau ei rieni, buan y mae'r berthynas a'r chwarae'n troi'n chwerw.

Mae Catherine McCormack, sy'n chwarae rhan Mrs Robinson, wedi gweithio'n helaeth ym myd ffilm, teledu a'r theatr. Mae fwyaf enwog am ei rhannau blaenllaw mewn ffilmiau fel Braveheart gyda Mel Gibson, a enillodd wobr Oscar, a Spy Game gyda Brad Pitt, a chafodd ei henwebu am wobr Olivier am ei rhan yn All My Sons yn y National Theatre, gyda Julie Walters.

Jack Monaghan fydd yn rhannu llwyfan â hi fel Benjamin, ac mae wedi chwarae'r brif ran yng nghynhyrchiad hynod boblogaidd y West End o'r War Horse, ac wedi ymddangos yng nghyfres Black Mirror Charlie Brooker ac yn y ffilmAbout Timegan Richard Curtis.

Yn cynnwys clasur o drac sain, gan gynnwys Wouldn't It Be Nice gan y Beach Boys, Everybody's Talkin'  gan Harry Nilsson a'r enwog Mrs Robinson a The Sound of Silence gan Simon and Garfunkel, caiff The Graduate ei chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr o fri Lucy Bailey, sydd wedi ennill gwobrau lu, yn yr adfywiad cyntaf o bwys ers y première yn y West End.

Eich dewis o brisiauMawrth - Iau 7.30pm a Sadwrn 2.30pmIau 2.30pmGwener a Sadwrn 7.30pm
Llawr gwaelodA-P£28.00£24.00£32.00
Q-S£24.00£20.00£29.00
T-U£19.00£18.00£22.00
CylchA-F£29.00£25.00£33.00
G-M£24.00£22.00£29.00
Cylch UchafA-D£19.00£18.00£22.00
E-F£12.50£12.00£14.00
Bocsys *£130.00£112.00£148.00
£108.00£100.00£130.00
Lle i gadair **£12.50£12.00£14.00
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Ychwanegir Tâl Gwasaneath Tocynnau o £3.95 at bob archeb (mae rhai eithriadau).
Postio i gyfeiriad yn y DU yn cael ei godi yn £1 (dewisol)

Gostyngiadau

Ar gyfer nos Fawrth i nos Iau 7.30pm a Sadwrn 2.30pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £4.00 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor; Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Plant, Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr.

DROS 60 OED: £18.00 ar gyfer dydd Iau 2.30pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-U, y Cylch A-M a'r Cylch Uchaf A-D

MANTAIS MYFYRIWR: £5.00 ar gyfer perfformiad gyda'r hwyr (heblaw nos Sadwrn) ar ôl 6pm.

Beth mae'r papurau yn eu dweud...

A splendid comedy
Daily Mail

Quite simply as perfect as you could wish. A wonderful…a first-class homage to one of cinema's finest hours
Daily Telegraph

An undoubted theatrical success. Fast and funny
Sunday Telegraph

 

 

HyntDigwyddiad React
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.