Yn dilyn llwyddiant dihafal Cleopatra a Beauty
& the Beast, mae cwmni Northern Ballet yn dychwelyd i
Gaerdydd gyda bale newydd sbon ar gyfer 2013 - The Great
Gatsby.
Wedi'i addasu o'r clasur o nofel gan F Scott Fitzgerald, mae'r
cynhyrchiad hwn yn ail-greu'r 1920au gwyllt a gwallgof yn ardal
Long Island, Efrog Newydd.
Daw Nick Caraway i adnabod ei gymydog drwgenwog Jay Gatsby -
miliwnydd â gorffennol go amheus â'i flys am bartïon rhwysg a
rhodres.
Ond mae Caraway yn sylwi ar yr unigrwydd, y tristwch a'r obsesiwn
sy'n llechu dan yr wyneb wrth i Gatsby golli'i afael ar y bywyd
braf.
Wrth i'r Great Gatsby ennill poblogrwydd o'r newydd, bachwch ar y
cyfle i weld y stori ddirdynnol yn fyw ar lwyfan gan gwmni heb ei
ail.
Hyd y Sioe: 2a 10m
Amcan o hyd y sioe yw hwn ac fe'i rhoddir fel arweiniad yn unig
Northern Ballet Revealed
Dydd Iau, 25 Ebrill, 11.15am - 12.45pm
Dewch i glywed am Northern Ballet mewn sgwrs 30
munud o hyd am brofiadau'r cwmni dawns teithiol a dysgwch am fywyd
dawnswyr proffesiynol o ddydd i ddydd drwy wylio dosbarth dyddiol y
dawnswyr.
Tocynnau: £4 (ni ellir prynu tocynnau
ar-lein)