• The Lady in the Van

    Mawrth 12 - Sadwrn 16 Mehefin 2012

    Hwyr 7.30pm
    Matinee Iau a Sadwrn 2.30pm
    The Lady in the Van

Mae gan Alan Bennett gymydog go anarferol. Mae fan wedi'i pharcio yng ngwaelod yr ardd - a menyw ynddi. Miss Shepherd yw'r fenyw yn y fan. Ychydig iawn y mae Alan yn ei wybod amdani. Arferai yrru ambiwlans yn ystod y rhyfel, efallai iddi fod yn lleian ar un adeg, mae'n gwerthu pensiliau a phamffledi ac yn casáu cerddoriaeth piano am ryw reswm. Ond rhywsut rywfodd, mae'n byw yng ngardd y dramodydd ers blynyddoedd lawer.

 Alan Bennett yw un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd Prydain, ac mae ei ddramâu yn cynnwys The History Boys, Talking Heads a The Madness of George III.

 Chwareir y brif rhan gan Nichola McAuliffe, un o actoresau llwyfan mwyaf poblogaidd Prydain.  Yn ogystal ag ymddangos fel Sheila Sabatini mewn saith cyfres o Surgical Spirit ar ITV, enillodd wobr Olivier am berfformiad eithriadol gan actores mewn sioe gerdd, yn Kiss Me Kate (RSC).

Hyd y sioe: 2a 35m    Amcan o hyd y sioe yw hwn ac fe'i rhoddir fel arweiniad yn unig

Eich dewis o brisiauHwyrIau 2.30pmSadwrn 2.30pm
Llawr gwaelodA-P£24.00£16.00£19.00
Q-S£21.00£13.00£15.50
T-U£16.00£10.00£12.00
CylchA-F£25.00£16.50£19.50
G-M£21.00£13.00£15.50
Cylch Uchaf£9.50£8.50£9.00
Bocsys *£112.00£72.00£88.00
£88.00£56.00£72.00
Lle i gadair **£9.50£8.50£9.00
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Codir tâl ychwanegol bychan am archebu ar-lein.

Rydym yn codi tâl ychwanegol o 50c y tocyn fel Cyfraniad at Wellar Seddi. Mwy o fanylion yma.

Gostyngiadau

Ar gyfer nos Fawrth i nos Wener 7.30pm  yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor, Plant, Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr, Deiliaid Cerdyn MAX.

DROS 60 OED: £11.00 ar gyfer dydd Iau 2.30pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig

GRWPIAU YSGOL: £8.50 yr un ar gyfer perfformiadau Mercher & Iau  - athrawon sy'n arolygu am ddim (1 athro am bob 10 myfyriwr)

MANTAIS MYFYRIWR: £5.00 ar gyfer perfformiad gyda'r hwyr (heblaw nos Sadwrn) ar ôl 6pm.

Beth mae'r papurau yn eu dweud...

a masterclass in what regional theatre can achieve at its best
Dominic Cavendish, The Telegraph

 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod