Roeddech Chi'n eu Caru am Reswm. Nawr, am y tro cyntaf, gallwch
weld y sioe gerdd newydd
syfrdanol hon ac ail-fyw un o'r bandiau bechgyn mwyaf erioed.
Mae THE OSMONDS: A new musical
yn adrodd stori wir gan Jay Osmond swyddogol y pum brawd o Utah
a gafodd eu gwthio i sylw'r byd pan yn blant ac aeth ymlaen i
gyfansoddi hits byd-enwog, ddegawd ar ôl degawd.
Ou preswylfa fawr ar The Andy Williams Show i ddyfodiad Donny a
Marie, gwnaeth yr Osmonds fyw
bywyd rhyfeddol yn recordio albymau a gyrhaeddodd frig y
siartiau, yn gwerthu pob tocyn ar gyfer
cyngherddau arena enfawr ac yn gwneud sioeau teledu a dorrodd
recordiau - nes bod un penderfyniad gwael yn costio popeth
iddynt.
Wedi'i chyfarwyddo gan Shaun Kerrison a'i goreograffu gan Bill
Deamer, sydd wedi ennill Gwobr Olivier, y sioe gerdd newydd sbon
hon yn cynnwys amrywiaeth o anthemau o frig y siartiau, gan gynnwys
Love Me For A Reason, Crazy Horses, Let Me In, Puppy
Love, Long Haired Lover From Liverpool, Paper
Roses a llawer mwy, bydd THE OSMONDS: A New Musical yn eich
'sgubo nôl i'r 60au… y 70au… yr 80au…
Ni'n 'cael parti' ac yn eich gwahodd chi i ymuno â ni am noson o
ddrama, hel atgofion a dawnsio yn
yr eiliau.