• The Tiger Who Came To Tea

    Iau 31 Mai - Sadwrn 2 Mehefin 2012

    Iau 2.00pm a 4.30pm;
    Gwener 10.00am a 1.30pm;
    Sadwrn 11.00am a 2.00pm
    The Tiger Who Came To TeaThe Tiger Who Came To TeaThe Tiger Who Came To TeaThe Tiger Who Came To Tea
Wedi’i seilio ar y llyfr darluniau a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd gan Judith Kerr
Addaswyd i’r llwyfan gyda chaneuon a geiriau gan David Wood

Mae cloch y drws yn canu wrth i Sophie a'i mam eistedd i gael te. Pwy ar y ddaear sydd yno tybed? Wel doedden nhw ddim yn disgwyl gweld teigr mawr streipiog mae hynny'n siŵr i chi!

 Yn dilyn tymor llwyddiannus yn y West End, mae'r teigr slochian te yn ôl ar y lôn mewn sioe wych i'r teulu, yn llawn lledrith, caneuon cofiadwy a llanast llwyr! Addasiad llwyfan gwefreiddiol o'r clasur o stori am hwyl dros ben llestri amser te….dylech ddisgwyl yr annisgwyl!

 Heb os, mae David Wood OBE yn awdur a chyfarwyddwr dramâu a sioeau cerdd i blant heb ei ail. Mae ei lwyddiannau niferus yn cynnwys Shaun the Sheep, Fantastic Mr Fox, The Gingerbread Man, BFG, The Witches, Meg and Mog, Spot a Babe the Sheep Pig.

 

Hyd y sioe:55m
Amcan o hyd y sioe yw hwn ac fe'i rhoddir fel arweiniad yn unig

Eich dewis o brisiau
Llawr gwaelodA-S£12.50
T-U£11.00
CylchA-M£12.50
Cylch Uchaf£8.50
Bocsys *£72.00
£60.00
Lle i gadair **£8.50
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Codir tâl ychwanegol bychan am archebu ar-lein.

Rydym yn codi tâl ychwanegol o 50c y tocyn fel Cyfraniad at Wellar Seddi. Mwy o fanylion yma.

Gostyngiadau

Ar gyfer pob perfformiad yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £1.50 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor, Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr, Deiliaid Cerdyn MAX.

DAN 16 OED: £9.50 ar gyfer unrhyw perfformiad yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig

GRWPIAU YSGOL: £8.50 yr un ar gyfer pob perfformiadau  - athrawon sy'n arolygu am ddim (1 athro am bob 10 myfyriwr)

 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod