• The Wedding Singer

    Llun 27 Chwefror - Sadwrn 4 Mawrth 2017

    Llun - Iau 7.30pm
    Gwener 5.00pm a 8.45pm
    Sadwrn 4.00pm a 8.00pm
    The Wedding SingerThe Wedding SingerThe Wedding SingerThe Wedding SingerThe Wedding Singer
Cerddoriaeth gan Matthew Sklar
Llyfr gan Chad Beguelin a Tim Herlihy
Geiriau gan Chad Beguelin
Yn seiliedig ar ffilm New Line Cinema wedi’i hysgrifennu gan Tim Herlihy
Cyfarwyddo a choreograffi gan Nick Winston

Gyda Jon Robyns, Cassie Compton, Roxanne Pallett, Ray Quinn, Ruth Madoc

PARTI FEL PETAI'N 1985

Mae'n 1985.  Mae gwallt yn fawr fawr, mae trachwant yn beth da, ac er gwaetha'i  awydd i fod yn seren roc, Robbie Hart  (Jon Robyns: Avenue Q, Legally Blonde) yw hoff ganwr priodasau New Jersey. Ond wedi i'w ddyweddi gael traed oer wrth yr allor, mae Robbie yn gwneud smonach o briodasau pobl eraill hefyd.

All Julia fwyn, (Cassie Compton: X Factor) a'i ffrind gorau Holly (Roxanne Pallett: Emmerdale, Waterloo Road) godi Robbie druan o'i hunandosturi ac yn ôl ar ei draed?  Neu a fydd e'n gwylio Glen (Ray Quinn: X Factor, Dancing on Ice), hen genau Wall Street, yn bachu ei gariad? Mae'n ymddangos taw Grandma Rosie (Ruth Madoc: Hi-De-Hi!, Little Britain) yw'r unig un sy'n credu y dylai Robbie a Julie fod gyda'i gilydd gydol oes.

Peidiwch â cholli'r cyfle i fwynhau parti gorau'r flwyddyn - gyda sioe gerdd sy'n siŵr o'ch annog i neidio ar eich traed yn gynt na'ch tad mewn priodas, yn gyforiog o ganeuon sy'n cyfleu holl hwyl a hoen ffilm lwyddiannus Adam Sandler.

OED A AWGRYMIR 12+

Hyd y sioe: 2a 35m
Amcan o hyd y sioe yw hwn ac fe'i rhoddir fel arweiniad yn unig

Perfformiad nos Sadwrn 4 Mawrth 4.00pm: YCHYDIG IAWN AR GAEL.  Cysylltwch y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda.

Eich dewis o brisiauLlun 7.30pm a Gwener 5.00pmMawrth - Iau 7.30pm a Sadwrn 4.00pmGwener 8.45pm a Sadwrn 8.00pm
Llawr gwaelodA-P£25.00£31.00£35.00
Q-S£21.00£27.00£31.00
T-U£18.00£22.00£26.00
CylchA-F£26.00£32.00£36.00
G-M£21.00£27.00£31.00
Cylch UchafA-D£18.00£22.00£26.00
E-F£11.00£13.00£15.00
Bocsys *£116.00£144.00£162.00
£94.00£122.00£140.00
Lle i gadair **£11.00£13.00£15.00
* Golwg gyfyngedig: 6 o bobl ar y mwyaf.
** Lle i gadair olwyn a sedd cymar (yr un).
Ychwanegir Tâl Gwasaneath Tocynnau o £3.95 at bob archeb (mae rhai eithriadau).
Postio i gyfeiriad yn y DU yn cael ei godi yn £1 (dewisol)

Gostyngiadau

Ar gyfer nos Fawrth i nos Iau 7.30pm a Sadwrn 4.00pm yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M yn unig: Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Grwpiau o 8 neu ragor; Gostyngiad o £3.50 ar gyfer Plant, Myfyrwyr, Dros 60 oed, Pobl Ddi-waith, Pobl Anabl ac un Cymar yr un, Hawlwyr.

DAN 16 OED: £18.00 yn Seddau'r Llawr Gwaelod A-S a'r Cylch A-M ar gyfer perfformiadau Gwener 5.00pm yn unig

Hynt
 

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad â phenawdau

04 Maw 2017 4:00 pm
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.