Cyfleoedd Busnes
Gadewch i ni eich diddanu!
Bob blwyddyn byddwn yn croesawu cynulleidfaoedd o dros filiwn o
bob cwr o'r DU.
Wedi'u lleoli yn nau o leoliadau gorau Cymru, mae'r Tîm Noddi a
Datblygu yn arbenigo ar greu a chynnal partneriaethau llwyddiannus
gyda'r gymuned fusnes, gan gynnig gwasanaeth heb ei ail yn
amgylchedd neilltuol Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre.
Gall partneriaeth fod yn gaffaeliad wrth i chi hyrwyddo'ch cwmni
a chyflawni'ch nodau a'ch amcanion.
Gall cefnogi'r Celfyddydau godi proffil eich cwmni.
Gyda chymaint o berfformiadau, a phrosiectau addysg a chymuned,
mae yna ddigonedd o gyfleoedd i gyd-fynd ag anghenion eich cwmni.
Mae pb pecyn Partneriaeth wedi'i deilwra er mwyn cyflawni amcanion
eich cwmni chi.
Mae Nawdd, Aelodaeth Gorfforaethol a Lletygarwch ar gael yn y
ddau leoliad. Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Noddi
a Phartneriaeth - ffoniwch 029 2087 3392.