Nawdd
Mae Neuadd Dewi Sant (agor mewn
ffenestr newydd) a'r New Theatre yn cynnig llawer o wahanol
fathau o becynnau nawdd i weddu i liaws o gwmnïau. Mae'r Tîm Noddi
a Datblygu yn arbenigo ar gynnig cyngor i fusnesau ynghylch y math
mwyaf addas o nawdd gan greu pecynnau i gyd-fynd ag anghenion y
cwmni.
Mae'r ddau leoliad yn croesawu rhai o gynyrchiadau a
pherfformwyr gorau'r byd i Gymru, ac yn denu cynulleidfaoedd mawr
yn gyson. Caiff y pecynnau eu crue gan gadw'r elfennau hyn mewn
cof, gan alluogi noddwyr i gyrraedd y cyhoedd a busnesau
eraill.
Er bod yna becynnau safonol, mae'r rhan fwyaf o drefniadau nawdd
wedi'u seilio ar nodau ac amcanion cwmni penodol, gyda buddion sy'n
adlewyrchu'r holl ofynion.
Mae noddi'n galluogi Neuadd Dewi Sant (agor
mewn ffenestr newydd) a'r New Theatre i gynnig rhaglen o
ddigwyddiadau o safon uchel.
Yn gyfnewid am hyn cewch wasanaeth heb ei ail a gwnawn bopeth o
fewn ein gallu i wireddu amcanion EICH cwmni.