old-seats

Ydych chi'n ddigon cyfforddus? - Mi fyddwch chi cyn hir!

Os ydych chi wedi eistedd yn y Cylch Uchaf erioed, byddwch yn gwybod nad yw'r seddi mor gyfforddus â rhai'r Llawr Gwaelod a'r Cylch, er eich bod yn gallu gweld a chlywed yn wych yno. Mae prisiau'r seddi hyn yn is o'r herwydd, ond mae llawer o gwsmeriaid yn ysgrifennu atom yn gofyn i ni roi seddi newydd yn eu lle.

Mae gennym newyddion cyffrous i chi... rydym yn bwriadu gosod seddi newydd yn y Cylch Uchaf!  Byddwn yn gosod seddi meddal lletach â rhagor o le i'ch coesau.

Gan fod hwn yn brosiect mawr, rydym yn gofyn i bawb dalu 50c yn ychwanegol wrth brynu tocyn er mwyn cyfrannu at y gwaith*. Bydd y Cyfraniad at Wella'r Seddi yn cael ei ychwanegu at brisiau tocynnau a brynir o 1 Chwefror ymlaen. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y prosiect, ac yn dileu'r cyfraniad ychwanegol o 50c ar ôl inni gyrraedd y targed.

Hyd yma, rydych chi wedi helpu i godi**: £107,704.

Diolch am gyfrannu i wella'ch theatr chi.

Bydd y seddi newydd yn eu lle erbyn mis Medi eleni - er y byddwn yn parhau i gasglu'r Cyfraniad at Wella'r Seddi tan ein bod wedi llwyddo i godi gweddill yr arian angenrheidiol.

Os hoffech wneud mwy o gyfraniad, anfonwch siec yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd' a'i phostio i:

Seddi'r Cylch Uchaf
New Theatre
Plas y Parc
CAERDYDD
CF10 3LN

Hoffai'r New Theatre ddiolch i Admiral Insurance a'r Gronfa Cymuneda Tirlenwi am eu cyffraniadau hael.

Noddi sedd newydd:

Hoffech chi roi'ch enw chi neu enw rhywun annwyl i chi neu neges arbennig ar blac i'w osod ar un o seddi newydd y Cylch Uchaf? Mae'n ffordd ddelfrydol o gofio am rywun a arferai ddod i'r New Theatre, neu'n anrheg pen-blwydd arbennig i rywun sydd wrth eu bodd gyda'r celfyddydau.

Rydym yn croesawu nawdd ar gyfer seddi newydd y Cylch Uchaf.  Dim ond £150 y sedd am bum mlynedd yw'r gost. Ffoniwch 029 2087 8889 i roi nawdd, a byddwn yn ysgrifennu atoch gyda'r manylion llawn. Os byddwch yn archebu cyn 31 Gorffennaf 2012, rydym yn derbyn taliadau archeb sefydlog i noddi sedd.

Er ein bod yn derbyn ceisiadau am rifau seddi penodol, ni allwn warantu y bydd eich dewis cyntaf ar gael. Wrth ofyn am neges arbennig ar blac, byddwn yn gofyn am ddetholiad o rifau seddi sy'n bwysig i chi. Os nad oes gennych unrhyw ofynion penodol, byddwn yn falch o neilltuo rhif sedd ar eich cyfer.

Dalier sylw - nid yw'r ffaith eich bod yn noddi sedd yn golygu bod gennych hawl neu berchnogaeth arbennig drosti, nac unrhyw hawl i'w harchebu cyn cwsmeriaid eraill. Mae'r New Theatre yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw neges anaddas.

Byddwn yn defnyddio'r holl elw a wneir o werthu'r hen seddi a noddi'r rhai newydd i ariannu prosiect gwella'r seddi.

I gael rhagor o wybodaeth am noddi neu brynu sedd, e-bostiwch ntmailings@cardiff.gov.uk

 


* Ni fyddwn yn ychwanegu'r cyfraniad at wella seddi at docynnau sy'n cael eu dosbarthu am ddim (e.e. seddi am ddim i gynorthwywyr personol / cynhalwyr) na thocynnau i bartïon ysgol.
** 18/4/12