Codi'r Llen ar y Manteision Arbennig Hyn
Gwybodaeth Gynnar
Cewch y newyddion diweddaraf am bob sioe cyn pawb arall - a chyfle
i archebu cyn pawb hefyd!
Tocynnau
Rhatach*
Gostyngiadau gwerth chweil ar sawl sioe yn y New Theatre
Rhaglenni Sioeau Am
Ddim**
Dwy daleb bob tymor i'w cyfnewid am raglen sioe o'ch dewis
Taith Gefn Llwyfan
Flynyddol
Cyfle i gael cip ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni
a dysgu rhai o gyfrinachau'r theatr
E-Gylchlthyron
Cewch y clecs a'r newyddion diweddaraf o'r theatr mewn e-byst
cyson
Mae'n rhatach na'r disgwyl
- Unigolyn £22
- Cyd-aelodau (2 o bobl a'r un
cyfeiriad) £34
- Unigolyn dros 60 oed £14
- Cyd-aelodau dros 60 oed £28
- Myfyriwr £14
- Unigolyn anabl £14
Ymunwch am ddwy flynedd ac arbed £££
Trwy ymuno am ddwy flynedd gallwch arbed 10% ar eich tâl
aelodaeth.
Er enghraifft, os yw'ch tâl blynyddol yn £22 y flwyddyn byddwch
yn talu £39.60 am ddwy flynedd.
Yn yr un modd, os ydych yn talu £14 y flwyddyn, ymunwch am ddwy
flynedd a thalu £25.20.
Dim ond ticio'r blwch ar y ffurflen gais sydd raid a thalu llai
am lawer mwy.
(Ddim ar gael gydag aelodaeth Aur.)