Gwasanaethau ar gyfer Pobl Anabl
Mae'r New Theatre yn croesawu pawb ac mae ganddi amrywiaeth eang
o wasanaethau i sicrhau eich bod yn gallu mwynhau ymweliad cysurus.
Dywedwch wrthym am eich anghenion wrth archebu tocynnau a chofiwch
ofyn i'r Rheolwr ar Ddyletswydd os oes angen rhywbeth arnoch pan
fyddwch yn cyrraedd.
Mae lleoedd parcio ar gyfer yr anabl y tu all i Westy'r Parc a
lle i ollwng pobl yn Heol y Brodyr Llwydion, lle mae mynedfa wastad
i'r theatr.
Cliciwch
yma i gael gwybodaeth bwysig am brisiau tocynnau i gwsmeriaid anabl
a'u cymdeithion / Cynorthwywyr Personol
Perfformiadau gyda Chymorth
laith Arwyddion Prydain
Disgrifiad clywedol byw
Perfformiad â phenawdau
Ar gyfer perfformiadau penodol sy'n cael eu dehongli neu'u
disgrifio mae'r un pris cyffredin ar gyfer sedd unrhyw le yn y
theatr i'r rhai sydd wedi'u cofrestru'n anabl sydd angen y
gwasanaeth yma, ac un cymar yr un. Mae'r pris hwn bob amser yr un
faint â'r pris sy'n cael ei hysbysebu ar gyfer y Cylch Uchaf.
Cynigir y gostyngiadau arferol ar gyfer perfformiadau eraill fel
sydd i'w weld yn y panel prisiau ar gyfer pob sioe.
Lawrlwytho llyfryn y tymor
Cliciwch yma i
lawrlytho copi Print Bras o Lyfryn y Tymor mewn fformat pdf
(Seasneg yn unig).
Sylwch y bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch er mwyn gweld y
llyfryn. Am gopi am ddim o Adobe Acrobat Reader, cliciwch yma (agor mewn ffenestr
newydd).