Gwybodaeth am docynnau rhatach i ymwelwyr anabl:

Mae'r New Theatre yn cynnig gostyngiad i ymwelwyr anabl ar y rhan fwyaf o docynnau yn y rhan fwyaf o berfformiadau. Rhestrir y gostyngiadau hyn ar dudalennau'r sioeau ar y wefan hon. Yn ogystal â hyn, gall defnyddwyr cadair olwyn brynu eu dewis o docynnau am y pris a hysbysebir ar gyfer y Cylch Uchaf. Am resymau technegol mae'n rhaid prynu llefydd cadair olwyn dros y ffôn neu yn bersonol ac nid ydynt ar gael ar-lein.

Mae gan bob person anabl sy'n mynychu'r New Theatre, ac sy'n gymwys i gael tocyn rhatach, hawl i brynu un sedd ychwanegol am yr un pris rhatach ar gyfer un cymar. Wrth brynu eich tocynnau gan y swyddfa docynnau, gofynnwch am y tocyn pris rhatach ychwanegol i'ch cymar. Neu os ydych chi'n prynu tocynnau ar-lein, dewiswch sedd ychwanegol ar gyfradd is person anabl ar gyfer eich cymar.

 

Cynllun tocynnau rhatach ac am ddim i Gynorthwywyr Personol (cynhalwyr)

Mae'r New Theatre yn deall y bydd rhai ymwelwyr anabl angen cymorth ychwanegol wrth ddod i'r theatr. Rydym felly'n falch o gynnig seddi am ddim neu seddi rhatach i Gynorthwywyr Personol (cynhalwyr) er mwyn i bobl anabl allu dod i'r theatr. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am y cynllun, cysylltwch â ni trwy'r dulliau a nodir ar y dde.

Rydym yn cynnig tocyn am ddim i Gynorthwyydd Personol (cynhaliwr) sy'n dod i'r theatr gyda pherson anabl sy'n derbyn cyfradd uwch elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, cyfradd uwch y Lwfans Gweini neu sydd â Thystysgrif Nam ar y Golwg.

Rydym yn cynnig gostyngiad o 30% i Gynorthwyydd Personol (cynhaliwr) sy'n dod i'r theatr gyda pherson anabl sy'n derbyn cyfradd ganol elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl.

Os ydych chi'n berson anabl cymwys na fyddai'n gallu dod i'r New Theatr heb eich Cynorthwyydd Personol (cynhaliwr), lawrlwythwch ffurflen gais 1 (ar y dde).

Os ydych chi'n Gynorthwyydd Personol (cynhaliwr) sy'n dod i'r New Theatr er mwyn hwyluso ymweliad person anabl cymwys, gallwch wneud cais am docyn am ddim i chi'ch hun trwy lawrlwytho ffurflen 2 (ar y dde).

Yn olaf, os ydych chi'n grŵp o bobl anabl sydd angen Cynorthwywyr Personol (cynhalwyr) wrth ymweld â'r New Theatre, lawrlwythwch ffurflen 3.

Ffurflen

 


Ar ôl ei chwblhau, anfonwch eich ffurflen at:

 

Cynorthwywyr Personol
New Theatre
Heol y Parc
CAERDYDD
CF10 3LN

Byddwn yn prosesu'ch cais ac yn cysylltu â chi o fewn 28 diwrnod. Nodwch na fyddwch yn gallu hawlio eich sedd(i) Cynorthwyydd Personol tan i ni ymateb gyda'ch rhif archebu unigryw. Unwaith y byddwch yn llwyddiannus, ni fydd raid i chi adnewyddu'ch statws am 3 blynedd (os bydd y cynllun yn para tu hwnt i'r cyfnod prawf).

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, gallwch anfon e-bost atom i ntmailings@cardiff.gov.uk, ein ffonio ar 029 2087 8787 neu ysgrifennu atom yn y cyfeirid uchod.

Lluniwyd y cynllun prawf gyda chymorth Swyddog Mynediad Cyngor Caerdydd, Clymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro, Celfyddydau Anabledd Cymru a'n cwsmeriaid.  Rydym yn croesawu adborth gan gwsmeriaid ar y polisi ar y ffôn, mewn e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriad uchod.