Croeso i Archif Ar-Lein y New Theatre
Yma, gallwch chwilio am sioeau'r gorffennol wrth eu henw, math o
sioe, dyddiad y perfformiad neu brif aelod y cast.
Chwilio drwy'r archif
I chwilio drwy ein harchif, nodwch eich meini prawf chwilio
isod.
I chwilio'n fwy cyffredinol, defnyddiwch un o'r meysydd
chwilio'n unig; defnyddiwch gyfuniad o feysydd chwilio i chwilio'n
fwy manwl.
Er enghraifft, i chwilio am bob cynhyrchiad o Peter Pan,
teipiwch "Peter Pan" yn y blwch termau chwilio. I chwilio am bob
cynhyrchiad o Peter Pan yn 2006, dewiswch 2006 o'r gwymplen
blwyddyn hefyd. Neu, os hoffech chi weld pryd ymddangosodd Laurence
Olivier yn y New Theatre, teipiwch "Laurence Olivier" yn y blwch
termau
chwilio.
Rydyn ni'n chwilio am ragor o wybodaeth i'w hychwanegu at yr
archif bob amser. Os oes gennych chi raglen sioe neu daflen ar
gyfer sioe o'r gorffennol nad yw yn yr archif, a fyddech cystal â'i
hanfon (neu lungopi) i: Archif y New Theatre, New Theatre, Heol y
Parc, CAERDYDD CF10 3LN. Anfonwch amlen â chyfeiriad a stamp hefyd
os hoffech i ni ddychwelyd y gwreiddiol atoch.
Mae'n hanfodol bod blwyddyn y sioe ar yr eitem neu wedi'i nodi
ar ddarn o bapur ar wahân.
Os byddwch chi'n gweld unrhyw gamgymeriadau yn yr archif
anfonwch e-bost i'r cyfeiriad hwn.
Nodwch fod Archif Ar-lein y New Theatre yn brosiect parhaus sy'n
cael ei ddiweddaru'n gyson. Efallai na fydd gwybodaeth rydych chi'n
chwilio amdani yn yr archif eto.