Lletygarwch yn y New Theatre
Gall y New Theatre gynnig gwasanaeth arlwyo proffesiynol at
ddant pawb, i ddiwallu pob math o anghenion lletygarwch.
Gallwn gynnig pob math o fwydlenni, o brydau bys a bawd i
wleddoedd, oll gyda gwasanaeth bar llawn. Gallwn drefnu partïon
plant hefyd, gyda dewis o fwydydd iach a blasus.
Mae lle i rhwng 30 a 120 o bobl yng nghynteddau'r Llawr Gwaelod,
y Cylch a'r Cylch Uchaf - yn dibynnu ar yr achlysur. Gallwn drefnu
lle ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau ar ôl y sioe gydol y
flwyddyn, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael ar y pryd. Ffoniwch
ni am fanylion.
Mae Ystafell Richard Burton yn ystafell breifat sy'n addas i
rhwng 10 a 50 o bobl. Mae'n cynnig awyrgylch fwy agos-atoch i gael
llymaid cyn, ac yn ystod egwyl y sioe.
Cyslltwch â thîm Blaen y Tŷ i drafod eich anghenion drwy ffonio
029 2087 8790


