
Penddelw Richard Burton
Lle: Y prif risiau sy'n arwain i far y
Cylch Uchaf
Richard Burton (1925 - 1984), heb os, oedd un o actorion gorau
ac enwocaf Cymru'r ugeinfed ganrif. Richard Jenkins Jnr oedd ei enw
bedydd, a chafodd ei eni ym Mhont-rhyd-y-fen ger Port Talbot, a'i
fagu gan ei chwaer ar ôl marwolaeth sydyn ei fam. Mabwysiadodd ei
gyfenw newydd ar ôl Philip H Burton, yr ysgolfeistr a'i anogodd i
feithrin ei ddawn actio.

Dechreuodd weithio fel actor ar ôl cyfnod byr ym Mhrifysgol
Rhydychen. Ar ôl ennill ei blwyf gyda chwmnïau theatr rhanbarthol
a'r West End, aeth ymlaen i actio mewn ffilmiau Prydeinig cyn dod
yn un o sêr mawr ei oes yn Hollywood. Roedd ei hynt a'i helynt yn y
papurau newydd yn gyson, diolch i'w fywyd personol lliwgar a'i ddwy
briodas ag Elizabeth Taylor.
Crëwyd y penddelw hwn gan yr artist o'r Eidal, Gualberto Rocchi,
(1914 -) ym 1967, i'w arddangos yng nghartref Burton yn Llundain.
Er na ymddangosodd Richard Burton erioed yn y New Theatre, fe'i
cyflwynwyd inni fel rhodd gan ei weddw Sally Burton ym 1989. Hefyd,
mae cyfres o luniau ohono yn ei berfformiadau llwyfan enwocaf, yn
harddu Ystafell Groeso Richard Burton.

Penddelw Gwenlyn Parry
Lle: Bar y Cylch Uchaf
Brodor o Ddeiniolen, Sir Gaernarfon oedd Gwenlyn Parry (1932
-1991), un brif ddramodwyr Cymraeg rhan ola'r ugeinfed ganrif. Mae
ei ddramâu'n cynnwys Sál, Y Ffin, Tŷ ar y
Tywod, a pherfformiwyd Y Tŵr am y tro cyntaf yn y New
Theatre ym 1978 fel drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol
Caerdydd. Roedd yn allweddol wrth sefydlu adran sgriptio BBC Cymru,
ac ef oedd un o sylfaenwyr y gyfres sebon hynod boblogaidd
Pobol y Cwm. Mae hefyd yn adnabyddus fel awdur gwreiddiol
y ffilm deledu Grand Slam 1978.