1972-3 Cyfrifon y theatr yn dangos bod y
dyledion bron wedi'u haneru.
1976 Y gweinyddwr Martin Williams yn cyfarwyddo
cynhyrchiad mewnol o Toad of Toad Hall gyda llawer o
actorion o Gymru, gan gynnwys y comedïwr Howell Evans yn y brif
ran.
Gosod llwyfan newydd ym mis Awst.
1977 Marwolaeth drasig a chynamserol Martin
Williams yn 32 oed; penodi Peter Lea fel olynydd iddo.
1982 Agor chwaer-ganolfan y New Theatre. Neuadd
Dewi Sant yn prysur ennill ei lle fel un o'r neuaddau cyngerdd
gorau yn Ewrop, gan ategu arlwy'r New Theatre ac yn cynnal y
cyngherddau symffoni a'r sioeau un noson.
Ar y cyfan, fodd bynnag, cyfnod o lanw a thrai oedd dechrau'r
1980au i'r New Theatre, gan adlewyrchu cyflwr economaidd y wlad ar
y pryd a'r prinder dramâu o safon. Rhai o uchafbwyntiau'r cyfnod
oedd Rattle of a Simple Man (John Alderton a Pauline
Collins), Deathtrap (Gordon Jackson), A Coat of
Varnish (Peter Barkworth ac Anthony Quayle),
Quartermaine's Terms (Michael Williams), Barefoot in
the Park (Peter Davison a Sandra Dickinson), Amadeus
(Keith Michell) a Children of a Lesser God (Elizabeth
Quinn).
1985 Judi Richards yn cael ei phenodi'n Rheolwr
Gyfarwyddwr y New Theatre. Mae ganddi gysylltiadau hir a balch
gyda'r lle - gan i'w thaid helpu i adeiladu'r theatr wreiddiol!
1986 Perfformiad cyntaf o Otello Verdi
gan Gwmni Opera Cymru, sydd hefyd yn perfformio Cyfres y Fodrwy
(Ring Cycle) Wagner yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf yng
Nghymru.
Cyngor Dinas Caerdydd yn cymryd yr awenau'n llwyr, ac yn
cyhoeddi cynllun o waith trwsio mawr.
1987/88 Y theatr ar gau am 12 mis wrth gael ei
hadnewyddu.
1988 Cwmni Theatr Clwyd yn cyflwyno A
Chorus of Disapproval gan Alan Ayckbourn.
Cynhyrchiad teithiol Peter Hall Company o Orpheus
Descending gyda Vanessa Redgrave; cyn symud ymlaen i'r West
End a Broadway.
1989 Perfformiad cyntaf Evita yng
Nghymru.

1990 Richard Harris yn ymddangos yn Henri
IV gan Pirandello.
Time and the Conways gan J B Priestley yn cynnwys
actorion fel Joan Plowright, Julie Kate a Tamsin Olivier, wedi'u
cyfarwyddo gan Richard Olivier.
Cynhyrchiad y National Theatre o Richard III yn cynnwys
Ian McKellen (a welwyd yma fel Edward II a Richard II ym 1969, a
Hamlet ym 1971).
1991 An Evening With Peter Ustinov
wedi gwerthu'n llwyr am wythnos gyfan.
1993 Marti Caine yn dychwelyd i'r llwyfan ym
mhantomeim Snow White eleni.
1994 Anthony Hopkins yn serennu yn fersiwn
Cwmni Theatr Clwyd o August, addasiad o Uncle
Vanya gan Chekov, sydd hefyd yn cynnwys Leslie Philips a merch
Richard Burton, Kate.
1995 Vanessa Redgrave yn dychwelyd i Gaerdydd
yn Antony and Cleopatra gan Shakespeare.
1996 Tymor i ddathlu hanner canmlwyddiant Cwmni
Opera Cymru.
Cynhyrchiad arbennig i ddathlu pen-blwydd y New Theatre yn 90
oed yw Marlene gyda Siân Philips (bu Dietrich ei hun yma
ym 1973).
1997 Cynhyrchiad clodwiw'r National Theatre o
Cardiff East gan y dramodydd lleol Peter Gill - yr unig
berfformiad y tu allan i Lundain.
A Delicate Balance gan Edward Albee, gyda Maggie Smith
(wyneb cyfarwydd arall a chwaraeodd ran Desdemona gyda Laurence
Olivier fel Othello ar ddiwedd y 1960au).
1998 Digwyddiad cyntaf 'Youth Dance Summer
School' yn rhoi cyfle i bobl ifanc y de gydweithio â dawnswyr
proffesiynol am wythnos, cyn perfformio eu cynhyrchiad eu hunain.
Mae'r prosiect addysg allanol hwn yn dal ar waith heddiw.
Robert Lindsay yw Richard III yng nghynhyrchiad teithiol yr
RSC.
1999 Penodi Susan Lewis yn rheolwraig y New
Theatre.

2000 Clwyd Theatr Cymru yn cyflwyno addasiad
llwyfan o drioleg grymus y nofelydd Alexander Cordell, ac yn
perfformio'r tair drama ar yr un diwrnod.
Première Cymru o Art gan Yasmina Reza gyda Nigel
Havers, Barry Foster a Roger Lloyd-Pack.
Cynnal cystadleuaeth 'BBC Radio 2 Voice of Musical Theatre
Competition' yma am y tro cyntaf. Yr enillydd yw Laura Michelle
Kelly, a aeth ymlaen i serennu yn sioe gerdd Mary Poppins
yn y West End.
2001 Y National Theatre yn llwyddo i godi
gwrychyn gyda'u cynhyrchiad dadleuol Mother Clapp's Molly
House.
2002 Julie Goodyear yn ymddangos yn La Cage
aux folles, ac yn cyhoeddi ei bwriad i ailymuno â
Coronation Street.
Lansio gwefan y theatr am y tro cyntaf.
The Play What I Wrote, gyda'r cast gwreiddiol, yn dod i
Gaerdydd cyn codi pac am Broadway - a'r actor gwadd yw Charles
Dance.
Y New Theatre yn rhan o ŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd am
y tro cyntaf .
2003 Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd yn dod i'r
New Theatre.
Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno'u cynhyrchiad agoriadol o
Under Milk Wood, gyda Matthew Rhys.
Dechrau gwerthu tocynnau'r theatr ar y we am y tro cyntaf.
2004 Canolfan Mileniwm Cymru yn agor ei
drysau. Ymddangosiad olaf Cwmni Opera Cymru yma cyn symud i'w
cartref newydd yng Nghanolfan y Mileniwm - bron i 50 mlynedd ers
ymddangosiad cynta'r cwmni yn y New Theatre.
Cwmni Theatr Cymru yn perfformio tair o ddramâu Shakespeare mewn
un diwrnod ar ddiwrnod ola'r daith.
Y New Theatre yn dal i fynd o nerth i nerth, gyda
chynulleidfaoedd mwy nag erioed.
Christopher Eccleston a Billie Piper, ynghyd â Simon Callow fel
Charles Dickens, yn ffilmio rhan o bennod Doctor Who,
The Unquiet Dead, yn y New Theatre (darlledwyd yng
ngwanwyn 2005).
2005 A Man for All Seasons gan Robert
Bolt, yn cynnwys Martin Shaw, yn dod i'r New Theatre cyn mynd
ymlaen i'r West End.
Cwmni Theatr Cymru yn cyflwyno Hamlet, gyda fersiwn
Cymraeg ohono ar rai nosweithiau.
2006 Gwaith adnewyddu mawr ar du allan yr
adeilad yn barod ar gyfer dathlu canmlwyddiant y New Theatre ym mis
Rhagfyr.
Première Caerdydd o sioe gerdd CATS yn para am 4
wythnos dros yr haf.
Pantomeim Jack & the Beanstalk yn llwyddiant
ysgubol, gyda John Barrowman (Doctor Who,
Torchwood)
2007 Galw mawr am docynnau ar gyfer fersiwn
cwmni theatr Orbit o High School Musical
Seren Dallas, Linda Gray, yn ymddangos yn Terms of
Endearment
Warren Mitchell yn y ddrama gomedi dwymgalon, Visiting Mr
Green
2008 Tommy Steele yn actio'r brif ran am
bythefnos yn y sioe gerdd ysblennydd, Doctor Dolittle
Y rociwr enwog Brian May o'r grŵp Queen yn gwneud ymddangosiad
annisgwyl yn Hello, Dolly! ar 21 Mehefin
2009 Cynnal clyweliadau Caerdydd ar gyfer
Britain's Got Talent yn y New Theatre.
Pob tocyn wedi'i werthu wrth i gast gwreiddiol Calendar
Girls ymddangos am wythnos ym mis Mawrth cyn yr agoriad
hirddisgwyliedig yn y West End.
Robert Redford, ŵyr sylfaenydd y theatr, yn dod i weld
Singin' in the Rain ym mis Mawrth. Mae hefyd yn rhoi
archif ei deulu o doriadau papur newydd a phosteri o 1906 - 1935
i'r theatr.
Torri pob record yn y Swyddfa Docynnau wrth i John Barrowman
ddychwelyd ar gyfer y pantomeim Robin Hood.
2010 Ym mis Mai, mae National Theatre Wales yn
cyflwyno drama hir gyntaf John Osborne, The Devil Inside
Him, yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf erioed.
Ym mis Hydref, cynhaliwyd cyngerdd arbennig am un noson yn unig
i gofio'r diweddar Olive Guppy. Ymddangosodd yr Olivettes
mewn 30 a mwy o bantomeimiau.
Y sioe gerdd Scrooge gyda Tommy Steele yw'r sioe gerdd sydd wedi
sicrhau'r incwm mwyaf erioed dros gyfnod o bythefnos yn y New
Theatre.
2011 Mae Susan Lewis yn rhoi'r gorau i'w gwaith
fel Rheolwr y Theatr ym mis Ionawr ar ôl 12 mlynedd yn y
swydd.
