• English Youth Ballet: Swan Lake

    Gwener 16 - Sadwrn 17 Awst 2019

    Hwyr 7.30pm
    Matinee Sadwrn 2.30pm

    Yn para: TBC
    English Youth Ballet: Swan Lake

Mae cynhyrchiad newydd sbon English Youth Ballet o Swan Lake yn dechrau'r daith yn y New Theatre. Cynhyrchiad traddodiadol ond gyda phwyslais arbennig ar yr ymryson rhwng Odile yr alarch du drwg ond hudolus ac Odette yr alarch gwyn prydferth ond bregus, wrth iddyn nhw ymgiprys am galon y Tywysog.

Wedi'i gosod yn Rwsia pan oedd Bale Marinsky yn boblogaidd gyda'r Tsar a bonedd Rwsia, mae'r Barwn Von Rothbart, Cyfarwyddwr Bale Rwsia yn cynllwynio i sicrhau nawdd Brenhinol trwy briodas  ei ferch Odile a mab y Tsar. Caiff Odette ei bradychu maes o law yn y bale enwog hwn gyda'i ddiweddglo trasig a dramatig. Dewch i fwynhau dawnsio gosgeiddig yr elyrch yn yr olygfa ar lan y llyn, a chyferbyniad ysblennydd Gerddi Palas y Tsar yn Act 3.

Bydd prif ddawnswyr proffesiynol English Youth Ballet yn arwain pasiant ysblennydd o hyd at 100 o ddawnswyr rhanbarthol dawnus sy'n rhan o'r cwmni arobryn hwn.

Polisi English Youth Ballet yw perfformio cynyrchiadau hyd llawn o fale clasurol mewn theatrau ledled y DU, a rhoi cyfle i ddawnswyr ifanc y tu fas i Lundain berfformio mewn cyd-destun proffesiynol. Mae'r cwmni poblogaidd yn llwyddo i werthu pob tocyn mewn sioeau ar hyd a lled y DU, ac yn dod â'r cynhyrchiad newydd godidog hwn oSwan Lakei Gaerdydd.

Gostyngiadau

Pob perfformiadau
£12.50 - £24.50

Bocsys o (uchafswm o 6 o bobl)
£105.00 - £115.00

Safonol Gostyngiadau: £2.00 off
Pob perfformiadau

Grwpiau (8+): £2.00 off
Pob perfformiadau

Hynt
 

Cynllun eistedd

Gweld ein cynllun seddi isod


Bwriad y cynllun eistedd yw rhoi syniad bras o gynllun yr awditoriwn. Gall union leoliad rhai saddau fod ychydig bach yn wahanol I'r cynllun.