
Beth amwirfoddoli yn un o leoliadau poblogaidd
Caerdydd?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli?
Ydych chi am fagu profiad mewn rôl sy'n canolbwyntio
ar gwsmeriaid?
Oes gennych chi amser rhydd i ddod yn Wirfoddolwr
Blaen y Tŷ?
Mae cyfle i bobl sydd wrth eu bodd â byd y theatr a
cherddoriaeth gael blas ar waith yn y maes drwy gynllun newydd sy'n
annog gwirfoddolwyr i chwarae rhan weithredol ym myd y celfyddydau
yng Nghaerdydd.
Gofynnir i bawb sy'n cymryd rhan gytuno i wirfoddoli am o
leiaf chwe mis, gan weithio 3-5 o shifftiau bob mis yn y New
Theatre.
Yn gyfnewid, byddant yn cael eu hyfforddi fel gwirfoddolwyr
blaen y tŷ, gan eu galluogi i fagu profiad o wasanaethau cwsmeriaid
ac iechyd a diogelwch a chael cyfle i fanteisio ar gynigion a
thocynnau arbennig hefyd. Gan fod perfformiadau hwyr yn y
ddau leoliad, gofynnir i wirfoddolwyr fod dros 18 oed.
Mae pecynnau ymgeisio a rhagor o wybodaeth ar gael i'w
lawrlwytho nawr. Cliciwch yma