Archebu a chasglu
Rydym yn cynnig gostyngiad ar y rhan fwyaf o berfformiadau i
ymwelwyr anabl. Rhestrir y gostyngiadau hyn ar ein tudalennau
sioeau. Hefyd, gall cwsmeriaid sy'n mynychu mewn cadeiriau olwyn
brynu eu tocynnau am bris sydd ar yr un gyfradd â
thocynnau'r Cylch Uchaf.
Am resymau technegol, gellir prynu lleoliadau i gadeiriau olwyn
dros y ffôn neu mewn person yn unig ac nid oes modd eu prynu
ar-lein.
Bwciwch ymlaen llaw
Gallwch archebu tocynnau o flaen llaw dros y ffôn ac mewn person
o 9:30 tan 17:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (a than
20:00 ar y rhan fwyaf o nosau perfformiadau). Mae staff yn hapus i
helpu gydag anghenion unigol.
Mae'r Swyddfa Docynnau ar y llawr gwaelod yn gyferbyn â'r prif
ddrysau ar ochr dde yr adeilad.
Cefnogaeth wrth ffonio
Gallwch ddefnyddio yr app Next Generation Lite wrth ffonio'r
Swyddfa Docynnau. Trwy gysylltu eich ffôn â 'Relay Assitant',
mae'r app yn eich galluogi i ddarllen yr hyn mae'r person arall yn
ei ddweud ac naill ai'n siarad neu'n teipio eich ymateb.
Casgliad
Gallwch gasglu eich tocynnau o fan hyn ar y nos neu o flaen llaw.
Dylid talu am bob archeb o fewn tri diwrnod gydag arian neu
gerdyn (MasterCard, Visa a Maestro).
Mae dau gownter, un sy'n 110cm o uchder ac un sy'n 75cm o
uchder. Mae system dolen sain ar gownter isaf y Swyddfa
Docynnau sy'n addas i gwsmeriaid sydd â gosodiad 'T' ar eu
teclynnau clyw.
Gwerthiannau a gostyngiadau
Hefyd rydym yn gwerthu tocynnau ar-lein, er nad yw lleoliadau
cadeiriau olwyn, seddi ar res V y Standiau, Bocsys a rhai
gostyngiadau (gan gynnwys gostyngiadau cynllun hynt) ar gael i'w
prynu ar-lein.
Ar gyfer y seddi a gostyngiadau hyn, ffoniwch y Swyddfa
Docynnau.
Hefyd gellir prynu tocynnau ar gyfer Perfformiadau Hamddenol
trwy'r Swyddfa Docynnau'n unig.
hynt

Cynigiwn ostyngiadau i bobl anabl, pobl dros 60 oed, myfyrwyr
a hawlwyr budd-daliadau i'r rhan fwyaf o berfformiadau'r
Theatr
Newydd. Mae prisiau'n amrywio'n ôl sioeau.
Gall aelodau cynllun hynt ddod â chynorthwywyr personol / gofalwyr
i'r perfformiad am ddim
Mae manylion llawn a ffurflenni cais ar gael o'n Swyddfa Docynnau
neu'n uniongyrchol o
wefan
hynt.
Oherwydd amodau cynllun hynt, nid oes modd postio tocynnau ymlaen
llaw ac mae angen eu nôl cyn y perfformiad.